Rygbi Samurai

Tîm 7 bob ochr gorau’r byd, mwy na thebyg!

Ysbrydolwyd Terry Sands i sefydlu Clwb Rygbi Samurai ym 1996, yn dilyn ysbryd a dycnwch tîm cenedlaethol Siapan yng Nghwpan Rygbi’r Byd 1995. Mae’n gweithredu ar sail gwahoddiad yn unig, gan greu carfan newydd o hyfforddwyr a chwaraewyr ar gyfer pob twrnament.

Mae’r carfannau yn gymysgedd o chwaraewyr a hyfforddwyr proffesiynol ac amatur, ond yn bwysicach na hynny yw’r amrywiaeth o genhedloedd sy’n cael eu cynrychioli. Does dim tâl i chwaraewyr i gynrychioli Rygbi Samurai, mae’n cael ei weld fel anrhydedd – hyd yn oed i chwaraewyr proffesiynol.

Roedd cael bod yn Swyddog y Wasg ar gyfer Amsterdam 7s 2022 yn anrhydedd mawr. Roeddwn i’n gyfrifol am ddiweddaru tudalennau cyfryngau cymdeithasol y tîm cyn, yn ystod ac yn syth ar ôl y twrnament, gan greu cynnwys diddorol a deinamig (copi, lluniau a fideo) yn ogystal â chysylltu â’r wasg i drefnu cyfweliadau chwaraewyr.

Oriel y prosiect