Llais eich cwmni ar-lein

17 Aug, 2022

Rwy’n diweddaru cynnwys cyfryngau cymdeithasol nifer o gwmnïau annibynnol yn wythnosol, gan arbenigo yn fwy penodol yn y sector chwaraeon, lletygarwch a theithio.

Gan weithio’n agos gyda’r cwmni(au) rwy’n mynd ati i greu strategaeth sy’n gweddu i anghenion penodol y busnes cyn creu cynnwys a chymryd gofal o’r proffiliau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gwaith yn cynnwys amseru cynnwys ac ymateb i gwestiynau / ymholiadau gan gwsmeriaid ar ran y cwmni.