Amdanaf i

Nerys Henry

Haia! Nerys ydw i. Un o ferched Cwm Gwendraeth sydd bellach wedi ymgartrefu ym metropolis Tinopolis, Llanelli! Pan nad wy’n mwynhau gwydraid o win neu jin, neu’n bwyta llond troli o gaws, rwy’n gofalu ar ôl sianeli cyfryngau cymdeithasol cwmnïau annibynnol.

Mae gen i brofiad eang o weithio yn y maes ers bron i 15 mlynedd, gyda bron i ddegawd o’r amser yna gyda rhanbarth rygbi’r Scarlets.  

Rwyf bellach yn cynnig gwasanaeth dwyieithog yn creu strategaethau cyfathrebu, rheoli prosiectau digidol, yn ysgrifennu copi o bob math ac yn cynorthwyo gyda hyrwyddo digwyddiadau. 

Os nad oes un o’r pethau yma’n swnio’n gyfarwydd neu’n addas peidiwch ag ofni codi’r ffôn i gael sgwrs ymhellach, mae’n aml iawn yn anodd labelu’r hyn ry’n ni angen, ac yn wir y gwaith rwy’n ei wneud i gwmnïau amrywiol o ddydd i ddydd.

Cysylltwch â mi >