Jambori Cwpan y Byd

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad, cynhaliodd yr Urdd Jambori ym mis Tachwedd 2022 i gyd-fynd ag ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.

Roedd Jambori Cwpan y Byd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac fe ddarlledwyd yn fyw ar Zoom, Facebook a YouTube gyda dros 230,000 o ddisgyblion mewn 1,070 o ysgolion yn cymryd rhan. Yr uchafbwynt i’r disgyblion oedd cael canu Yma o Hyd yn fyw gyda Dafydd Iwan!

Cydweithiais gyda’r Urdd ar strategaeth cyfryngau cymdeithasol gan fynd ati i greu cynnwys dwyieithog ac amserlenni ar sianeli digidol y mudiad.

Oriel y prosiect