Gemau Stryd yr Urdd

Hynod o gyffrous oedd cael cydweithio gyda’r Urdd ar y Gemau Stryd cyntaf erioed (2022). Digwyddiad newydd sbon i arddangos a dathlu rhai o’r chwaraeon Olympaidd newydd, gan gynnwys BMX, Sglefrfyrddio a Phêl-fasged 3×3. 

Cefais gyfle i ddatblygu strategaeth i hyrwyddo’r gemau ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys dwyieithog atyniadol a diddorol i ddenu dilynwyr newydd. Pleser oedd cael bod yn bresennol yn ystod y penwythnos i sicrhau diweddariadau byw ar y cyfryngau cymdeithasol (copi ysgrifenedig, lluniau a fideo) gan gydweithio’n agos gyda thîm marchnata’r Urdd. 

Cynyddwyd y nifer o ddilynwyr ar Instagram +4,200% gan gyrraedd 27,514 cyfrif mewn dau fis yn ogystal â 113.9mil o argraffiadau a 25,039 o ymweliadau proffil ar Twitter yn yr un cyfnod.

Mae Gemau Stryd yr Urdd yn ôl ar gyfer 2023 gyda gweithgareddau a chystadlaethau newydd. Ymunwch â ni!

Oriel y prosiect