Whisper Cymru

Whisper Cymru yw swyddfa rhanbarthol y cwmni cynhyrchu rhyngwladol Whisper. Dan arweiniad Carys Owens, mae’r tîm 20+ wedi cyflwyno rhaglenni dogfen sy’n torri tir newydd, gan gynnwys y rhaglen ddogfen arobryn Two Sides yn 2022, yn ogystal â Return to Rockfield gydag Oasis a Gamechangers gyda’r BBC. Mae hefyd yn cynhyrchu darllediad Chwe Gwlad y Menywod ar gyfer y BBC, Cwpan Rygbi’r Byd ar gyfer S4C, cynnwys Masnachol a Digidol i Undeb Rygbi Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, a llawer mwy. Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae wedi’i enwi yn Lle Darlledu Gorau i Weithio chwe gwaith ac yn enillydd gwobr Busnes y Flwyddyn Caerdydd yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2022.

Rwyf wedi gweithio gyda Whisper Cymru ers 2019 ar brosiectau amrywiol. Rwy’n sgrifennu copi ar gyfer y wefan a chyfryngau cymdeithasol, yn cynghori ar gynnwys cyfrwng Cymraeg ac wedi gweithio ar brosiectau ffrydio byw, gan gynnwys Rygbi Pawb ar gyfer S4C. 

Tîm Cynhyrchu ar:

  • Rygbi Byddar a Chwpan y Byd (S4C)
  • Cwpan y Byd 2023 (S4C)
  • Gatland a’i Garfan: Ffrainc 2023 (S4C)
  • Stryd i’r Sgrym (S4C)
  • Ken Owens: Y Sheriff (S4C, 2024)

Oriel y prosiect